Cynhaliwyd y dydedd, a’r ras olaf o gyfres rasys trêl Sialens y Barcud Coch yn Longwood, Llanbed ar nos Fercher 3 Gorffennaf, gyda chriw da o redwyr o bob cwr yn dod allan i rasio.
Clwb rhedeg Llanbed, Sarn Helen, oedd yn cynnal y ras sy’n arwain y rhedwyr ar gwrs 5 milltir hyfryd ond heriol trwy Goedwigaeth Gymunedol Longwood uwchben y dref Brifysgol enwog.
Ar ôl iddo ennill ras ddiwethaf y gyfres, sef Ras yr Hafod, y mis Mai, roedd yr aelod Sarn Helen, Dylan Lewis yn ffefryn ar gyfer y fuddugoliaeth fan hyn. Ac yn wir, felly y bu wrth iddo arwain o’r dechrau i’r diwedd. Roedd y rhedwyr Clwb Athletau Aberystwyth, Owain Schiavone a James Cowan, yn ail ac yn drydydd.
Ag yntau wedi ennill dwy o rasys y gyfres, a dod yn drydydd yn y ras gyntaf yn Nant yr Arian, roedd y canlyniad fan hyn yn golygu bod Dylan Lewis yn cipio coron pencampwr y gyfres. Derbyniodd ei wobr gan sylfaenydd Sialens y Barcud Coch, a’r llywydd anrhydeddus, Dic Evans.
Roedd Dee Jolly, hefyd o Sarn Helen, yn ffefryn mawr ymysg y merched a hithau wedi cipio’r fuddugoliaeth yn y ras yma yn 2023. Yn wir, roedd hi ben ag ysgwyddau’n well na’r gystadleuaeth, ac fe groesodd y terfyn dros funud cyn Sophia Barker yn yr ail safle a Bethan Williams oedd yn drydydd.
Roedd y canlyniad yn cwblhau’r hatric o fuddugoliaethau i Dee yn y gyfes eleni ar ôl ennill yn yr Hafod ac yn Nant yr Arian hefyd. Roedd hefyd yn golygu ei bod yn dal ei gafael ar deitl y gyfres am yr ail flwyddyn, ac fe gyflwynwyd ei gwobr iddi hefyd gan Dic Evans.
Roedd buddugoliaethau categori i James Cowan (SM), Sophia Barker (SF), Dylan Lewis (M35), Dee Jolly (F35), Ian Evans (M45), Claire Morris (F45), Glyn Price (M55), Liz Pugh (F55), Jack Parry (M65) a Chris Thomas (F65).
Yn gynharach yn y noson roedd cyfle i’r rhedwyr ifanc rasio gan ddechrau gyda’r plant cynradd blynyddoedd 3 a 4. Ifan Jones of Aberystwyth AC oedd y cyntaf o’r bechgyn gyda Hawys Gruffudd o Sarn Helen yn ferch gyntaf.
Tro’r plant oedran blynyddoedd 5-6 oedd hi nesaf gydag Elis Herrick yn cipio’r fuddugoliaeth wedi brwydr agos iawn gyda Celt Davies, y ddau o Sarn Helen. Ellie Tansley o Ysgol y Dderi oedd y ferch gyntaf.
Roedd y plant uwchradd yn dechrau gyda’r oedolion ond yn rhedeg cwrs byrrach tua 2.5 milltir. Y cyntaf i gwblhau’r cwrs oedd Tomos Green o Sarn Helen ar ôl brwydr galed gyda Gethin Thomas o Harriers Caerfyrddin, a oedd ddim ond 4 eiliad y tu ôl iddo. Gwen Tompsett o Ysgol Penweddig oedd y ferch gyntaf gyda Paige Lilly-Williams ac Emily Evans-Williams, y ddwy o Harriers Caerfyrddin, yn ail ac yn drydydd.
“Dyma’r ail waith i ni gynnal ras lwybrau Longwood ac mae wedi bod yn wych i fod yn ran o gyfres rhedeg llwybrau Sialens y Barcud Coch” meddai Cyfarwyddwr y Ras, Rhys Burton.
“Mae’n amser prysur o’r flwyddyn i ni gyda chlwb Sarn Helen gan bod ras ffordd Felinfach 6 newydd fod, a ras Cwmann yn digwydd ar 12 Gorffennaf, ond mae’n grêt i ffitio’r ras trêl yma i mewn rhwng y rasys ffordd i gynnig bach o amrywiaeth.
“Diolch i bawb fu’n helpu gyda’r ras, ac wrth gwrs i’r rhedwyr a gefnogodd gan gynnwys criwiau da’n teithio o glybiau fel Llanfair ym Muallt, Harriers Caerfyrddin ac Aberystwyth. Hoffai cyfarwyddwr y cwrs, Marc Davies, ddiolch yn arbennig i Longwood am ganiatáu i ni ddefnyddio’r llwybrau ar gyfer y digwyddiad.”
Dylan and Dee crowned summer series champions
The third and final race of the Red Kite Challenge summer trail series was held at Longwood, Lampeter on 3 July and drew another fantastic turnout from runners near and far.
Lampeter running club, Sarn Helen, hosted the race which took runners along a beautiful but challenging 5 mile route through Longwood Community Woodland above the university town.
Having won the last race of the series at Hafod Estate in May, Sarn Helens Dylan Lewis was the outstanding favourite for the win, and so it proved as he led the race from gun to finish. Aberystwyth AC runners Owain Schiavone and James Cowan were second and third respectively.
With a pair of wins to his name, and a solid third place finish at the opening fixture in Nant yr Arian, the result gave Lewis the overall victory for the series and the prize was presented to him by Red Kite Challenge founder and honorary president, Dic Evans.
Dee Jolly, also of Sarn Helen, was the favourite for in the women’s race as well having won this fixture in 2023. She indeed dominated the field to take the victory by more than a minute ahead of Sophia Barker in second place and Bethan Williams in third.
The result completed the hattrick of wins for Dee in the series this year having also taken first place at Hafod and Nant yr Arian. It also meant she retained her series victory from last year, and was also presented with her trophy by Dic Evans.
There were also category wins for James Cowan (Senior Male), Sophia Barker (Senior Female), Dylan Lewis (M35), Dee Jolly (F35), Ian Evans (M45), Claire Morris (F45), Glyn Price (M55), Liz Pugh (F55), Jack Parry (M65) and Chris Thomas (F65).
Earlier in the evening junior races were also held with the year 3-4 primary age first to go. Ifan Jones of Aberystwyth AC was first home for the boys with Hawys Gruffudd of Sarn Helen first of the girls.
It was then the turn of the year 5-6 children with Elis Herrick taking the win after a very close battle with Celt Davies, both of Sarn Helen. First of the girls was Ellie Tansley of Ysgol y Dderi.
The secondary juniors started with the seniors but ran a shortened route of around 2.5 miles. First home was Tomos Green of Sarn Helen after a hard fought battle with Gethin Thomas of Carmarthen Harriers, who was just 4 seconds back. First of the girls was Gwen Tompsett of Ysgol Penweddig with Paige Lilly-Williams and Emily Evans-Williams, both of Carmarthen Harriers, not far behind in second and third.
“This is the second year we’ve held the Longwood trail race and it’s great to be once more involved with the Red Kite trail series” said Race Director, Rhys Burton.
“It’s a busy little time of the year for Sarn Helen in terms of holding races with Felinfach 6 having just been, and Cwmann 5 coming up on 12 July, but it’s great to squeeze this trail race in between those road races to add some variety.
“Thanks to everyone who helped with the race, and also to the runners who supported, including those travelling from clubs like Builth and District, Carmarthen Harriers and Aberystwyth AC. Course manager Marc Davies would particularly like to thank Longwood for allowing us to use the trails to host the event.”
Main picture / prif lun: Dic Evans presents Dee Jolly with her series champion prize / Dic Evans yn cyflwyno gwobr pencampwr y gyfres i Dee Jolly