Bydd cyfres boblogaidd o rasys trêl canol wythnos Sialens y Barcud Coch yn dychwelyd gyda’r gyntaf o’r rasys heriol, Ras Hwyrnos Nant yr Arian ar 16 Ebrill.
Dyma fydd y bedwaredd flwyddyn yn olynol i ni gynnal Ras Hwyrnos Nant yr Arian ar ôl i Dic Evans sefydlu’r ras yn 2022.
Mae’r ras wedi tyfu’n gyflym mewn poblogrwydd gan ddenu mwy o redwyr pob blwyddyn. Mae’r ras bum milltir yn tywys rhedwyr dros lwybrau godidog Bwlch Nant yr Arian, ac yn cynnwys tua 800 troedfedd o ddringo.

Enillydd y ras llynedd, am yr ail flwyddyn yn olynol, oedd Ben Porter o Glwb Triathlon Cerist gan osod record cwrs newydd o 31:45.
Dee Jolly o glwb rhedeg Sarn Helen oedd y ferch gyntaf mewn 38:40.
Yn dilyn yn fuan ar ôl Nant yr Arian bydd ail ras y gyfres, sef Ras yr Hafod.
Mae Ras yr Hafod yn ras hanesyddol bellach ac yn cael ei rhedeg ers nifer o flynyddoedd gan fanteisio ar lwybrau hyfryd ystad yr Hafod ger Pontarfynach. Oherwydd difrod a achoswyd gan stormydd diweddar, bydd y ras yn defnyddio cwrs ychydig yn wahanol eleni, ond bydd yr un mor heriol ag arfer.
Mae modd cofrestru ar gyfer y ddwy ras ar-lein nawr ac rydym fel trefnwyr yn annog pawb i wneud hynny os yn bosib. Bydd rasys plant oedran cynradd cyn y brif ras, gyda rhedwyr oedran uwchradd yn dechrau yr un pryd a’r oedolion ond ar gwrs byrrach.
Bydd unrhyw elw o rasys y gyfres unwaith eto’n mynd tuag at elusennau’n gysylltiedig ag Ysbyty Bronglais.
Cofrestrwch ar gyfer Ras Hwyrnos Nant yr Arian.
Cofrestrwch ar gyfer Ras yr Hafod.
—————-
The popular Red Kite midweek trail running series will return this year with the first of those races, Ras Hwyrnos Nant yr Arian to be held on 16 April.
This will be the fourth installment of Ras Hwyrnos Nant yr Arian after Dic Evans established the race initially in 2022.
The race has grown quickly in popularity and has attracted higher numbers of runners each year. The 5 mile route leads runners along the beautiful trails of Bwlch Nant yr Arian, including a challenging 800 feet of elevation.
Last years winner, for the second time, was Ben Porter of Cerist Triathlon Club, setting a new course record of 31:45 in the process

Dee Jolly of Sarn Helen running club was the first lady in 38:40.
Following hot on the heels of Nant yr Arian will be the second race of the series, Ras yr Hafod.
Ras yr Hafod is a well established and historical race now have been held over a number of years. The race takes advantage of the wonderful Hafod Estage near Devils Bridge. Because of recent storm damage, the route will be slightly altered this year, but will be just as challenging as always.
You can enter these races online now and we encourage averyone to do so in advance if possible. Junior races for primary age children will be held before the main race with secondary age juniors starting at the same time as the seniors, but with a shortened route.
Any proceeds from the races will as always be contributed towards Bronglais Hospital charities.