Midweek Trail Series continues with Ras yr Hafod / Cyfres trêl yr haf yn parhau gyda Ras yr Hafod

The second race of the Red Kite Summer Trail Series was held in the beautiful surroundings of the Hafod Estate on Wednesday 8 May. 

Having kicked off with some great racing at Ras Nant yr Arian three weeks prior, the runners turned out in force once more to hit the footpaths of the popular and long standing local race. 

As usual, the evening’s proceedings kicked off with the junior races. The year 3-4 boys race was won by Aled Davies of Aberystwyth AC, with teammate Moli Tooze taking the girls’ victory. 

Next it was the turn of the year 5-6 age group and it was no surprise to see top local junior, Sarn Helen’s Elis Herrick take the win with Yasmine Evans of Aberystwyth AC first of the girls not far behind.

The third junior race of the evening was the years 7-9 race which was won by Carmarthen Harrier, Gethin Thomas ahead of Sarn Helen’s Ben Hall in second place. It was a very tight battle in the girls’ race which was eventually won by another Carmarthen Harrier, Page-lilly Williams only 3 seconds ahead of Ysgol Penweddig’s Gwen Tompsett in second place with Mia Lloyd of Sarn Helen not far behind in third. 

The older secondary age group, years 10-11 started with the seniors and had to complete one lap of the two lap course which was around 4k with almost 500ft of elevation. First of the boys was Oli Lerigo of Aberystwyth AC in a fantastic time of 21:53, with Llew Schiavone and Rhuban Coleman-Long, also both of Aber AC in second and third. The girls’ race was won by another Aber AC athlete, Enfys Rowlands. 

Dylan Lewis, Sarn Helen – men’s winner (Pic by Colin Ewart/Pitchsideimages)

It was another strong field in the Seniors race which is a challenging 5 mile route with around 900ft of climbing. Having finished second and third respectively in the series opener at Nant yr Arian, it was likely to be a close battle between Aberystwyth Uni Harrier Joe Robson, and Sarn Helen’s Dylan Lewis with Builth and District’s Phil Morris and James Cowan also likely to be in the mix. 

Cowan set the early pace but Robson and Lewis were shoulder to shoulder at the lead as the runners completed the first lap. However, Lewis forced a gap soon after and opened it up gradually through the remainder of the race to take the spoils, whilst smashing the course record in a time of 34:41. Joe Robson finished a full minute back, with Phil Morris running a great second lap to finish in 35:53. 

In the women’s race it was a comfortable victory for 2022 champion, Dee Jolly of Sarn Helen, finishing in 42:18. Second place was Beth Saunders in 45:34 ahead of Matilda Wolstenholm of Aberystwyth Uni Harriers in 46:31. 

There were also category wins for Beth Saunders (OF), Dee Jolly (F35), Lesley Lewis (F45), Liz Pugh (F55), Chris Thomas (F65), Joe Robson (OM), Dylan Lewis (M35), Phil Morris (M45), Glyn Price (M55), Paul Wise (M65). 

Dee Jolly, Sarn Helen (120) led the women home (Pic by Colin Ewart/Pitchsideimages)

“It was another great night of racing at Hafod and we’d like to thank everyone for turning out to support the race” said Race Director, Owain Schiavone. 

“Ras yr Hafod is organised by the Red Kite Challenge and the committee are keen to thank the National Trust for their support in holding the event along with the St Michael Church Committee for providing refreshments for the runners, the Raynet crew for ensuring all the runners’ safety along the route, and all the volunteers who helped out on the night.

“The next race in the series will be held at Longwood in Lampeter on 3 July and we look forward to seeing everyone there for another fantastic evening of trail running.”

Full results can be found on the Red Kite Challenge website.

Cyfres trêl yr haf yn parhau gyda Ras yr Hafod

Cynhaliwyd yr ail ras lwybrau o Gyfres yr Haf Sialens y Barcud Coch yn lleoiad hyfryd Ystad Hafod ar nos Fercher 8 Mai. 

Gan ddilyn rasio gwych yn y gyntaf o’r gyfres yn Ras Hwyrnos Nant yr Arian dair wythnos yn gynharach, roedd criw da o redwyr yn barod i droedio llwybrau’r Hafod ar gyfer y ras leol boblogaidd a hanesyddol. 

Fel arfer, dechreuodd y noson gyda’r rasys ieuenctid. Yn y ras i flynyddoedd 3-4, Aled Davies o Glwb Athletau Aberystwyth oedd yn gyntaf o’r bechgyn, gyda Moli Tooze o’r un clwb yn ennill ras y merched. 

Nesaf oedd y ras i flynyddoedd 5-6 a doedd hi’n ddim syndod i weld y rhedwr ifanc addawol o glwb Sarn Helen, Elis Herrick, yn dod i’r brig ymysg y bechgyn, gyda Yasmine Evans o Aberystwyth AC yn agos tu ôl iddo yn cipio teitl y merched. 

Trydedd ras y noson oedd honno i flynyddoedd 7-9 a enillwyd gan Gethin Thomas o Harriers Caerfyrddin gyda Ben Hall o Sarn Helen yn ail. Roedd yn ras glos iawn ym,ymysg y merched a enillwyd yn y diwedd gan Page-lilly Williams o Harriers Caerfyrddin, gwta dair eiliad o flaen Gwen Tompsett o Ysgol Penweddig yn yr ail safle, gyda Mia Lloyd o Sarn Helen ddim yn bell tu ôl iddynt yn y trydydd safle.

Roedd ras yr oedran uwchradd hŷn, sef blynyddoedd 10-11, yn dechrau gyda’r oedolion ond yn rhedeg un cylch o’r cwrs dau gylch. Er hynny, roedd dal yn heriol dros tua 4k o mewn pellter a bron 500 troedfedd o ddringo. Y cyntaf o’r bechgyn oedd Oli Lerigo Glwb Athletau Aberystwyth mewn amser gwych o 21:53, gyda Llew Schiavone a Rhuban Coleman-Long, y ddau hefyd o GA Aberystwyth yn ail a thrydydd. Un arall o aelodau Clwb Athletau Aberystwyth, Enfys Rowlands, oedd yn fuddugol yn ras y merched. 

Roedd criw cryf o redwyr ar gyfer ras yr oedolion oedd yn ras 5 milltir gyda dros 900 troedfedd o ddringo. A hwythau wedi gorffen yn yr ail a thrydydd safle yn ras gyntaf y gyfres yn Nant yr Arian, roedd disgwyl iddi fod yn frwydyr agos am y fuddugoliaeth rhwng Joe Robson o Harriers Prifysgol Aberystwyth, a Dylan Lewis o Sarn Helen gyda Phil Morris o glwb Llanfair ym Muallt a James Cowan hefyd yn debygol o fod yn amlwg. 

Cowan oedd yr arweinydd cynnar ond erbyn iddynt gwblhau’r cylch cyntaf roedd Robson a Lewis ochr yn ochr ar flaen y ras. Er hynny, agorodd Lewis fwlch yn fuan ar yr ail gylch ac ymestyn y bwlch hwnnw’n raddol gan gipio’r fuddugoliaeth, a record y cwrs, mewn amser ardderchog o 34:41. Roedd Joe Robson funud llawn y tu ôl iddo gyda Phil Morris yn rhedeg al gylch gwych i orffen yn drydydd mewn 35:53.

Yn ras y merched roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus i bencampwraig 2022, Dee Jolly o Sarn Helen, yn gorffen mewn 42:18. Yn yr ail safle roedd Beth Saunders mewn 45:34 gyda Matilda Wolstenholm o Harriers Prifysgol Aberystwyth yn drydydd mewn 46:31. 

Roedd buddugoliaethau categori hefyd i Beth Saunders (OF), Dee Jolly (F35), Lesley Lewis (F45), Liz Pugh (F55), Chris Thomas (F65), Joe Robson (OM), Dylan Lewis (M35), Phil Morris (M45), Glyn Price (M55) a Paul Wise (M65). 

“Roedd yn noson wych arall o rasio yn yr Hafod a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am ddod i gefnogi’r ras” meddai Cyfarwyddwr y Ras, Owain Schiavone. 

“Mae Ras yr Hafod yn cael ei threfnu gan Sialens y Barcud Coch ac fe hoffai’r pwyllgor fanteisio ar y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu cefnogaeth i’r ras. Diolch hefyd i bwyllgor Eglwys Newydd am drefnu lluniaeth i’r rhedwyr, i griw Raynet am wneud yn siwr bod pawb yn saff ar y cwrs, ac i’r holl wirfoddolwyr fu’n helpu ar y noson.

“Bydd ras nesaf y gyfres yn cael ei chynnal yn Longwod, Llanbed ar 3 Gorffennaf ac rydym yn edrych ymlaen i weld pawb yno ar gyfer noson wych arall o rasio trêl.”

Gellir canfod y canlyniadau llawn ar wefan Sialens y Barcud Coch.