Dunn a Barker yn hawlio teitlau cyfres y Barcud Coch / Dunn and Barker take Red Kite Series titles

Dunn a Barker yn hawlio teitlau cyfres y Barcud Coch

Will Dunn o glwb Meirionnydd a Sophia Barker o Sarn Helen gafodd eu coronni’n bencampwyr Cyfres yr Haf, Sialens y Barcud Coch eleni yn dilyn y ras olaf y gyfres yn Llanbedr Pont Steffan. 

Will Dunn yn derbyn ei wobr gyntaf ar y noson gan drefnydd Ras Longwood, Rhys Burton.
Will Dunn receives his first prize on the night from Longwood race director, Rhys Burton.

Coedwig gymunedol Longwood uwchben Llanbed oedd lleoliad ras olaf y gyfres rhedeg trêl unwaith eto eleni ar ôl cynnal rasys blaenorol yn Ystad yr Hafod a Bwlch Nant yr Arian. 

Ar noson hyfryd yn Llanbed, roedd criw da o redwyr ar linell gychwyn y ras i oedolion gan gynnwys aelodau o glybiau Sarn Helen, Aberystwyth, ASRC, Meirionnydd ac Aberteifi. 

Ag yntau wedi gorffen yn ail yn y ddwy ras flaenorol, roedd buddugoliaeth o’r diwedd i Will Dunn, a honno’n fuddugoliaeth gyfforddus mewn amser o 32:48. Y rhedwr profiadol o’r clwb lleol Sarn Helen, Glyn Price, oedd yn ail ddwy funud y tu ôl i Dunn mewn 34:52 gyda Teifion Davies, hefyd o Sarn Helen yn drydydd ar y noson mewn 35:36. 

Ar ôl gorffen yn drydydd yn Nant yr Arian, yna’n ail yn Ras yr Hafod, roedd buddugoliaeth felys o’r diwedd hefyd ymysg y merched i Sophia Barker o Sarn Helen mewn 39:25. Dwynwen Davies o ASRC oedd yn ail mewn 42:58 gyda Dee Jolly o Sarn Helen yn drydydd mewn 43:56. 

Y plant oedd wedi cwblhau pob ras blynyddoedd 3-4 gyda’u wobrau gan Simon Hall Meats / The year 3-4 juniors who completed all races this year with their prizes donated by Simon Hall Meats

Roedd y canlyniadau’n golygu bod y ddau enillydd ar y noson wedi gwneud digon i gipio teitlau’r gyfres eleni, a cyflwynwyd eu gwobrau iddynt ar ôl y ras yng Nghlwg Rygbi Llanbed. 

Roedd buddugoliaethau categorïau oedran Ras Longwood hefyd i Sophia Barker (Merched Agored), Dee Jolly (F35), Siân Roberts-Jones (F45), Teifion Davies (Dynion Agored), George Eadon (M35), William Dunn (M45), Glyn Price (M55) a’r bytholwyrdd Tony Hall (M65). 

Rhedwyr ifanc yn disgleirio

Yn gynharach yn y noson cynhaliwyd rasys i’r plant cynradd ac roedd 1, 2 a 3 i Glwb Athletau Aberystwyth yn y ras i fechgyn blynyddoedd 3 a 4 gydag  Isaac Jones yn gyntaf, Idris Davies-Dunn yn ail ac ei frawd Edmund Davies-Dunn yn drydydd. Ela Freeman o Sarn Helen oedd y ferch gyntaf, gydag Alaw Jones o Aberystwyth yn ail. 

Y plant oedd wedi cwblhau pob ras blynyddoedd 7-9 gyda’u gwobrau yn roddedig gan Simon Hall Meats / The year 7-9 juniors who completed all races this year with their prizes donated by Simon Hall Meats

Bechgyn Sarn Helen oedd a’r law uchaf yn y ras i flynyddoedd 5 a 6 wrth i Elis Herrick o’r clwb gipio’r fuddugoliaeth, a Jacob Hall hefyd o Sarn Helen yn ail. Aled Davies o Aberystwyth oedd yn drydydd. 

Yn y rasys uwchradd, cipiodd Gethin Thomas o Harriers Caerfyrddin ei drydedd buddugoliaeth o’r gyfres eleni yn y ras blwyddyn 7-9, gydag Ellie Tansley o Sarn Helen yn gyntaf ymysg y merched. 

Eleni am y tro cyntaf roedd gwobrau cyfres i’r plant hefyd diolch i nawdd Simon Hall Meats, Llanbedr Pont Steffan. Cyflwynwyd gwobrau i’r enillwyr unigol, ynghyd â gwobr i bob plentyn oedd wedi cwblhau pob ras yn y gyfres eleni. 

————————————————-

Dunn and Barker take Red Kite Series titles

Will Dunn of Meirionnydd and Sophia Barker of Sarn Helen were crowned Red Kite Challenge series champions after the series finale in Lampeter.

Sophia Barker of Sarn Helen with her series prize, presented by Rhys Burton, Longwood race director / Sophia Barker yn derbyn ei gwobr enillydd y gyfres gan drefnydd ras Longwood, Rhys Burton

Longwood community woodland was the venue for the last race of the annual summer trail running series once more following earlier races held at Hafod Estate and Bwlch Nant yr Arian. 

On a beautiful evening in Lampeter, a good field of runners were on the start line for the senior race including members of  Sarn Helen, Aberystwyth AC, ASRC, Meirionnydd and Aberteifi running clubs. 

After finishing second in the two other races, there was victory at last for Will Dunn, and it was a comfortable victory as he completed the 4.7 mile course in a time of 32:48. Experienced Sarn Helen runner Glyn Price was second, two minutes behind Dunn in 34:52, with Teifion Davies, also of Sarn Helen third on the night in 35:36. 

Merched bl 5 a 6 oedd wedi cwblhau pob ras / The year 5 and 6 girls who had cpmpleted all the races this year

After finishing third in Nant yr Arian, and then second in Ras yr Hafod, Sophia Barker of Sarn Helen once more managed to improve by one position to take the victory in 39:25. Dwynwen Davies of ASRC was second in 42:58 with Dee Jolly of Sarn Helen third in 43:56. 

The results confirmed that the two winners on the night had done enough to take the overall series titles this year, and they were presented with their series prizes at Lampeter Rugby Club following the race. 

There were Ras Longwood age category victories also for Sophia Barker (Open female), Dee Jolly (F35), Siân Roberts-Jones (F45), Teifion Davies (Open Male), George Eadon (M35), William Dunn (M45), Glyn Price (M55) and the evergreen Tony Hall (M65). 

Junior runners impress

The primary school age junior races were held earlier in the evening and there was a 1, 2 and 3 for Aberystwyth AC boys in the year 3 and 4 race with Isaac Jones in first place, Idris Davies-Dunn second, and his twin brother Edmund Davies-Dunn finishing third. Ela Freeman of Sarn Helen was the first girl, with Alaw Jones of Aberystwyth in second place. 

Y bechgyn oedd wedi cwblhau pob ras blynyddoedd 5-6 gyda’u gwobrau gan Simon Hall Meats / The year 5-6 boys who completed all races this year with their prizes donated by Simon Hall Meats

The Sarn Helen boys had the upper hand in the year 5 and 6 race though, as Elis Herrick stormed to victory, with Jacob Hall also of Sarn Helen in second place. Aled Davies of Aberystwyth AC was third on the night.

In the secondary school age race, Gethin Thomas of Carmarthen Harriers secured his third victory of the series this year in the year 7-9 category, whilst Ellie Tansley of Sarn Helen took the win amongst the girls. 

This year for the first time there were series prizes for the juniors kindly donated by Simon Hall Meats, of Lampeter. Individual prizes were presented for the series winners, and every junior who had completed all of the series races were also presented with a prize. 

Canlyniadau Ras Hwyrnos Longwood 2025 Results