COFRESTRU / ENTER

Cofrestrwch ar gyfer Sialens y Barcud Coch 2024 / Enter the Red Kite Challenge 2024

Mae modd cofrestru ar gyfer Ras y Barcud 2024 nawr!

Bydd y digwyddiad, sydd hefyd yn cynnwys rasys ieuenctid i oedrannau dan 13 i dan 20, yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 ym Mhontarfynach, Ceredigion.

1/2 Marathon Ras y Barcud ydy prif ras trêl Canolbarth Cymru, ac unwaith eto eleni bydd yn cynnwys Pencampwriaethau Trêl Cymru a Phencampwriaethau Trêl Gorllewin Cymru.

Mae’r rasys ieuenctid, sy’n amrywiol mewn pellteroedd o 3k i 10k, hefyd yn cynnwys Pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru, felly mae disgwyl i redwyr trêl gorau Cymru o bob oedran dyrru i Bontarfynach.

Mae manylion llawn trefniadau’r diwrnod, ac amserlen y rasio ar gael nawr.

Bydd Ras y Barcud eleni unwaith eto’n codi arian at achos da lleol, sef ward chemo Ysbyty Bronglais yn Aberyswyth.

Os hoffech godi arian at ward chemo Ysbyty Bronglais trwy redeg Ras y Barcud trwy godi nawdd (lleiafswm £50) yna gallwn roi mynediad am ddim i’r ras i chi.  Cysylltwch trwy rasybarcud@gmail.com am y ffurflenni nawdd priodol, neu lawr lwytho fan hyn, a byddwn yn ad-dalu eich pris mynediad wrth dderbyn eich arian nawdd ar ddiwrnod y ras.

Register now

Registration is now open for Ras y Barcud 2023! 

The event, which also includes junior races for ages ranging from under 13 to under20, will be held on Saturday 27 April at Devils Bridge, Ceredigion. 

Ras y Barcud 1/2 Marathon is the premier trail race in Mid Wales, and will this year once again incorporate the Welsh Trail Running Championships, and also West Wales Trail Running Championships. 

Junior races will vary in distances from  3k to 10k, will also incorporate the Welsh and West Wales Championships, therefore the best trail runners in Wales are expected to descend upon Devils Bridge.  

Full detail for the day, including race schedule, are now available. 

Ras y Barcud will again this year be raising money for a local charity, namely the chemo ward at Bronglais Hospital in  Aberystwyth.

If you would like to run Ras y Barcud in aid of Bronglais hospital’s chemo ward by collecting sponsorship (minimum £50), we can provide you with free entry for the race. Contact us on rasybarcud@gmail.com for the relevant sponsorship form, or download here, and we will refund your entry on receipt of the sponsorship funds on race day.

Links to online entries via Entryhub

Cofrestrwch arlein / Enter online

Printable entry forms / ffurflenni cofrestru papur

PDF version of entry form / fersiwn PDF o’r ffurflen gofrestru

Word version of entry form / fersiwn Word o’r ffurflen gofrestru