Red Kite Challenge donate £3500 to Bronglais Hospital Chemo Ward / Sialens y Barcud Coch yn rhoi cyfraniad o £3500 i Ward Chemo Ysbyty Bronglais 

Red Kite Challenge donate £3500 to Bronglais Hospital Chemo Ward

The annual Devils Bridge based trail race, Sialens y Barcud Coch, this week made a donation of £3500 to the Bronglais Hospital Chemotherapy Ward. 

The funds were raised through the event last year, and some of the fundraisers and organising committee visited the Chemo ward staff to make the donation. 

Amongst them were the three fundraisers who collected the most sponsorship, Beth Saunders, Mark ‘Spar’ Williams and Gwilym Jones.

Beth Saunders is also part of the race committee who are busy making the arrangements for this year’s event on Saturday 29th April, and was joined by fellow committee member James Cowan to make the presentation. 

“I raced in the half marathon last year, but we also hold a 10k race and numerous junior races during the day” explained Beth. 

“As I was keen to do the race, and keen to support the charity, I decided I might as well raise sponsorship as well and people were very happy to support such a good cause. As the races are Welsh Championship races, the Red Kite Challenge brings a high quality running event to the area, but just as important is the fact that the event proceeds always go towards local charities like Bronglais hospital.”

The Red Kite Challenge was established by local running legend Dic Evans twenty years ago, with the aim of attracting a major running championships to mid Wales. The half marathon and junior races will once more host the West Wales and Welsh Trail Running Championships (long course) in 2023, and will also be selection races for various national teams.

Unfortunately, Evans suffered a stroke over Christmas and is currently still being kept in at Bronglais Hospital. The Red Kite Challenge will this year be raising funds towards the Stroke Unit in Bronglais hospital, as well as the Chemo unit. 

Deputy Race Director, Tom Roberts, was glad that the race could make such a significant donation towards the chemo ward. 

“As a race, we’re very proud of the funds we’ve raised towards Bronglais hospital over the years which is now well over £20,000” said Roberts. 

“The event was a huge success last year, and that shows in the donation we were able to make towards the chemo ward. We’re hoping this year’s event will be just as successful, if not more so and are keen to see as many people involved as possible. Anyone wanting to raise sponsorship are welcomed to do so, and sponsorship forms are available on the race website. There is free entry to the race for anyone raising £50 or more in sponsorship.

“If you don’t fancy running, then we’re very keen to recruit volunteers to help out on the day – we desperately need as many marshalls as possible and anyone able to lend a hand in any way is very welcomed. With Dic currently out of action, we’re asking as many people as possible to rally round and help ensure the event is successful, and that we can raise more vital funds towards the hospital. 

“We’d also like to thank our headline sponsor for the race this year, Aberystwyth University, for their support as it gives us a big boost in terms of the event costs, which will in turn of course ensure we can raise more money towards the charity.”

If you don’t fancy taking part in the race but want to support out charity work then you can make a contribution via our official Hywel Dda Charities page.

——————-

Sialens y Barcud Coch yn rhoi cyfraniad o £3500 i Ward Chemo Ysbyty Bronglais 

Mae’r ras redeg llwybrau flynyddol a gynhelir ym Mhontarfynach, Sialens y Barcud Coch, wedi gwneud cyfraniad o £3500 tuag at Ward Chemotherapy Ysbyty Bronglais. 

Codwyd yr arian hwn trwy gynnal y digwyddiad llynedd, a bu i rai o’r trefnwyr ac unigolion fu’n codi arian ymweld â staff y ward Chemo yn ddiweddar i drosglwyddo’r cyfraniad. 

Yn eu mysg roedd y tri rhedwr a cherddwr a gododd y mwyaf o arian nawdd sef Beth Saunders, Mark ‘Spar’ Williams and Gwilym Jones.

Mae Beth Saunders hefyd yn aelod o bwyllgor trefnu’r ras sydd ar hyn o bryd yn brysur yn gwneud y trefniadau ar gyfer y digwyddiad eleni ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill, ac roedd un arall o’r pwyllgor trefnu, James Cowan yn gwmni iddi.  

“Fe wnes i rasio yn yr hanner marathon llynedd, ond rydyn ni hefyd yn cynnal ras 10k a nifer o rasys ieuenctid yn ystod y dydd” eglurodd Beth. 

“Gan fy mod i’n awyddus i wneud y ras, yn ogystal â chefnogi’r elusen, mi wnes i benderfynu bod cystal i mi godi arian nawdd hefyd ac roedd pobl yn barod iawn i gefnogi’r achos ardderchog yma. Gan fod y ras yn un Bencampwriaeth Cymru, mae Sialens y Barcud Coch yn dod â chystadleuaeth o’r safon uchaf i’r ardal, ond yr un mor bwysig a hynny ydy’r ffaith bod y digwyddiad bob amser yn codi arian tuag at achosion da lleol, ac yn benodol felly tuag at Ysbyty Bronglais.” 

Sefydlwyd Sialens y Barcud Coch gan redwr enwocaf yr ardal, Dic Evans, ugain mlynedd yn ôl gyda’r nod o ddenu pencampwriaeth rhedeg o bwys i ganolbarth Cymru. Mae’r hanner marathon a’r rasys ieuenctid unwaith eto’n bencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru ar gyfer rhedeg llwybrau (cwrs hir) yn 2023, ac maent hefyd yn rasys dethol ar gyfer timau rhyngwladol amrywiol Cymru. 

Yn anffodus, dioddefodd Evans strôc dros wyliau’r Nadolig ac ar hyn o bryd mae’n dal i fod yn cael gofal yn Ysbyty Bronglais. Eleni felly bydd Sialens y Barcud Coch yn codi arian tuag at yr Uned Strôc ym Mronglais, yn ogystal â’r ward Chemo. 

Roedd Dirprwy Gyfarwyddwr y Ras, Tom Roberts, yn falch iawn fod y digwyddiad wedi gallu gwneud cyfraniad mor sylweddol tuag at yr uned chemo. 

“Mae’r ras yn falch iawn o’r arian rydym wedi gallu codi tuag at Ysbyty Bronglais dros y blynyddoedd gyda’r swm bellach ymhell dros £20,000” meddai Roberts. 

“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol llynedd, ac mae hynny i’w weld yn glir gyda’r cyfraniad rydym wedi gallu gwneud tuag at y ward Chemo. Rydym yn obeithiol y bydd yr un mor llwyddiannus eleni, os nad yn fwy llwyddiannus, ac yn awyddus i weld cymaint â phosib o bobl yn rhan o’r diwrnod. Mae croeso mawr i unrhyw un godi arian nawdd ac mae ffurflenni nawdd ar wefan y ras. Rydym yn cynnig lle am ddim yn y ras i unrhyw un sy’n codi £500 neu fwy mewn nawdd. 

“Ond os nad ydych am redeg, yna rydym yn awyddus i recriwtio cymaint â phosib o wirfoddolwyr i helpu ar y dydd – mae dirfawr angen cymaint â phosib o stiwardiaid ac mae croeso mawr i unrhyw un sy’n gallu helpu mewn unrhyw fodd gysylltu. Gan nad ydy Dic yn gallu gwneud rhyw lawer eleni, rydym yn galw ar gymaint â phosib o bobl i ddod ynghyd i helpu sicrhau llwyddiant y digwyddiad, ac er mwyn i ni allu codi mwy fyth o arian tuag at yr ysbyty. 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd i ddiolch o galon i’n prif noddwyr newydd sef, Prifysgol Aberystwyth, am eu cefnogaeth – mae’n rhoi hwb mawr i ni o safbwynt costau cynnal y digwyddiad, ac mae hynny wrth gwrs yn ei dro’n sicrhau bod mwy o arian yn mynd tuag at yr elusen. ”

Os nad ydych am gymryd rhan yn y ras ond yn awyddus i gefnogi ein gwaith elusennol yna gallwch wneud cyfraniad trwy ein tudalen Elusennau Hywel Dda swyddogol.