Cyfres yr Haf / Summer Series 1: Ras Hwyrnos Nant yr Arian (19/04/23)

Record turnout for opener of trail racing series

There was a tremendous turnout for the first of a local summer series of trail running races being organised by the Red Kite Challenge.

Ben Porter was the overall winner in a course record time / Torrodd yr enillydd, Ben Poter, record y cwrs

Bwlch Nant yr Arian was the spectacular location for the midweek evening race which was held on Wednesday 19 April, and provided a perfect midweek backdrop for some great racing in the series opener. 

Indeed, there was a record turnout for the event with well over double the number of runners of last year’s race with 140 taking part in total between the junior and senior races. No doubt the numbers would have been boosted by a number of people wanting to support race and series founder and local running great, Dic Evans, who suffered a severe stroke over Christmas and is still currently being cared for in the Broglais stroke ward.

The quality of racing was high as well, so much so that both course records set last year tumbled on what was a dry but blustery evening in the Elenydd highlands. 

Joanna Rees from Builth and District was first F45 / Joanna Rees oedd y fenyw gyntaf dros 45 oed

Ben Porter took the overall win with a time of 31:48 which beat the former course record by a full minute. He was closely followed by Owain Schiavone of Aberystwyth AC in 31:57, with Aberystwyth University Harrier, James Cowan third in 33:11. 

Ffion Price of Builth and District was the first of the ladies home in a fantastic time of 34:52, smashing the course record of 35:42 set by clubmate Donna Morris last year. Aberystwyth University Harrier Emma Price was second in 37:13 followed by Dee Jolly of Sarn Helen in 38:23 for third. 

Owain Schiavone and Dee Jolly also took the wins in the M35 and F35 category prizes with Rhodri ap Dyfrig of Meirionnydd winning the M45 category and Joanne Rees of Builth and District first F45.

The other category wins were taken by Mel Hopkins (M55) and Cameron Pope (M65) both of Aberystwyth AC, Lou Summers of Sarn Helen (F55) and Chris Thomas of Builth. 

Podium finisher James Cowan is also part of the race committee for the Red Kite Challenge and was delighted with the success of the race. 

James Cowan was out marking the course during the afternoon but still managed a podium place / James Cowan, un o drefnwyr y ras, ar ei ffordd i’w drydydd safle

“It was a fantastic opener for our summer series of trail races this year and Dic would have been chuffed to see the size and quality of the field” said James.

“It was a learning curve for us as a group of organisers and I spent the afternoon marking the course. It’s these little things in the background that Dic usually sorts out the people don’t notice and appreciate. 

“We were very glad to see so many local clubs supporting the race – it was great to welcome so many runners from Sarn Helen, Aberystwyth AC, Builth and District, Cerist Triathlon and our own Aberystwyth Uni Harriers running, and showing support and solidarity with Dic. We’ll hopefully have another great turnout for the next race at the Hafod.” 

The next race in the series will be held at the Hafod estate near Pontrhydygroes on Wednesday 3 May, and a third date has just been confirmed on 21 June ar Long Wood in Lampeter with Sarn Helen playing hosts.

Proceeds from the series races will go towards the Red Kite Challenge’s charity, namely Bronglais hospital stroke ward. 

Before this though, all eyes will turn towards the Red Kite Challenge’s main stand alone event this weekend with junior races, as well as a 10k and Half Marathon taking place in Devil’s Bridge on Saturday 29 April. 

Nant yr Arian Senior race results (5 mile)

Nant yr Arian Secondary school age results (3 mile)

Nant yr Arian Primary age yr 3 + 4

Nant yr Arian Primary age yr 5 + 6

 

Nifer rhedwyr yn dyblu ar gyfer ras gyntaf cyfres rhedeg llwybrau

Dee Jolly of Sarn Helen – third overall and 1st F35 / Dee Jolly o glwb Sarn Helen oedd y drydedd ferch a’r gyntaf dros 35 oed

Roedd yna ddechrau ardderchog i’r gyntaf o’r gyfres o rasys rhedeg llwybrau a gynhelir gan Sialens y Barcud Coch wythnos diwethaf. 

Bwlch Nant yr Arian oedd y lleoliad godidog ar gyfer y ras hwyrnos ganol wythnos a gyhaliwyd ar nos Fercher 19 Ebrill, ac roedd yn gefnlen perffaith ar gyfer agor y gyfres a’r rasio gwych a welwyd. 

Yn wir, roedd nifer y rhedwyr yn record ar gyfer y digwyddiad gyda ymhell dros ddwbl y nifer a rasiodd yn y ras gyfatebol llynedd – cyfanswm o 140 o redwyr yn troedio’r llinell ddechrau. Heb amheuaeth roedd hynny’n rhannol diolch i’r ffaith bod pobl yn awyddus i gefnogi sylfaenydd y ras a’r gyfres, y rhedwr lleol enwog, Dic Evans, a ddioddefodd strôc dros y Nadolig a sydd ar hyn o bryd yn parhau i dderbyn gofal yn ward strôc ysbyty Bronglais.

Roedd safon y rasio’n arbennig o uchel hefyd, cymaint felly nes i record cwrs y dynion a’r merched gael eu chwalu ar noson sych ond gwyntog yn uchelfannau Elenydd. 

Owain Schiavone of Aberystwyth AC was second overall and first M35 / Ail safle i Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth ac enillydd y categori dynion 35+

Ben Porter oedd enillydd y ras mewn amser o 31:48 gan dorri’r record blaenorol o funud cyfan. Yn dynn ar ei sodlau oedd Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth mewn amser o 31:57, gyda Harrier Prifysgol Aberystwyth, James Cowan yn drydydd mewn 33:11. 

Ffion Price o glwb rhedeg Llanfair ym Muallt oedd y ferch gyntaf i orffen mewn amser ardderchog o 34:52, gan chwalu record y cwrs a osodwyd gan ei chyd-aelod clwb, Donna Morris, llynedd. Emma Price o Harriers Prifysgol Aberystwyth oedd yn ail mewn 37:13 gyda Dee Jolly o Sarn Helen yn drydydd mewn 38:23. 

Owain Schiavone a Dee Jolly hefyd oedd enillwyr y categoriau dynion a merched dros 35 oed gyda Rhodri ap Dyfrig o Glwb Rhedeg Meirionnydd yn ennill y categori i ddynion dros 45 oed, a Joanne Rees o Glwb Llanfair ym Muallt yn fenyw gyntaf dros 45 oed.

Mel Hopkins – first M55 / y dyn cyntaf dros 55 oed

Enillwyr y categorïau eraill oedd Mel Hopkins (dynion 55+) a Cameron Pope (dynion 65+), y ddau o Glwb Athletau Aberystwyth, Gunvor Troelsen o Lanfair ym Muallt yn fenyw gyntaf drod 55 oed a Chris Thomas, hefyd o Glwb Llanfair ym Muallt, yn fenyw gyntaf drod 65.  

Roedd y gŵr yn y trydydd safle, James Cowan, hefyd yn ran o’r tîm oedd yn trefnu’r ras ac wrth ei fodd gyda llwyddiant y digwyddiad. 

“Roedd yn ddechreuad perffaith ar gyfer ein cyfres haf o rasys trêl eleni a byddai Dic wedi bod wrth ei fodd i weld cymaint o redwyr, a safon y rasio” meddai James. 

“Rhaid cyfaddef ei fod yn brofiad i ni fel criw newydd o drefnwyr ac ro’n i allan yn marcio’r cwrs trwy’r prynhawn. Y pethau bach yma roedd Dic yn eu gwneud nad oeddech chi’n sylwi arnyn nhw nac yn gwerthfawrogi’n llawn. 

“Roedden ni’n falch iawn i weld cymaint o glybiau lleol yn cefnogi’r ras ac roedd yn wych gweld cymaint o redwyr Sarn Helen, Clwb Athletau Aberystwyth, Clwb Llanfair ym Muallt, criw Triathlon Cerist ac ein clwb ni, Harriers Prifysgol Aberystwyth yn rhedeg, gan ddangos cefnogaeth ac undod gyda Dic. Rydym yn gobeithio gweld cymaint o redwyr ein ras nesaf yn yr Hafod.” 

Bydd ras nesaf y gyfres yn cael ei chynnal yn ystad yr Hafod ger Pontrhydygroes ar nos Fercher 3 Mai, ac mae trydydd dyddiad newydd ei gyhoeddi ar 21 Mehefin gyda’r ras i’w chynnal yng nghoedwig Long Wood, Llanbed gyda chlwb Sarn Helen yn trefnu. 

Cyn hynny, bydd sylw’r trefnwyr a’r byd rhedeg llwybrau Cymreig yn troi at brif rasys Sialens y Barcud Coch y penwythnos yma gyda rasys ieuenctid, ynghyd a 10k a Hanner Marathon yn digwydd ym Mhontarfynach ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill. 

Bydd incwm y rasys yn mynd tuag at elusen Sialens y Barcud Coch eleni sef ward strôc Ysbyty Bronglais. Manylion llawn ar http://redkite-barcudcoch.org.uk/ 

Canlyniadau Ras Oedolion Nant yr Arian  (5 Milltir)

Nant yr Arian – canlyniadau ras uwchradd (3 milltir)

Nant yr Arian – canlyniadau bl. 3 + 4

Nant yr Arian – canlyniadau bl. 5 + 6

(Diolch i Shelley Childs am y lluniau / Thanks to Shelley Childs for the race pictures)