Becky and Dylan domiante Ras yr Hafod senior race / Becky a Dylan yn cipio coron Ras yr Hafod

Two Sarn Helen runners dominated the field to take the Ras yr Hafod 2025 senior titles on what was another beautiful evening at the Hafod Estate near Pontrhydygroes.

2024 champion Dylan Lewis, fresh from running Manchester Marathon, returned to reclaim his crown in 2025. This years race was held on an alternative and slightly shorter route due to storm damage at the Hafod estate, but Lewis led from the start and had a comfortable lead at the end of the first lap.

Dylan Lewis leading the men in Ras yr Hafod 2025 / Dylan Lewis yn arwain ras y dynion

Ultimately he finished the race in a time of 34:16 which was over 3/4 minute ahead of his nearest oponent in what was a dominant display.

It was however y much closer battle for the second and third positions with a group of four men going through the halfway point together. The Summer Series opening race winner at Nant yr Arian, Ieuan Pugh-Jones, was amongst them as was Will Dunn whom was a close second on that occasion.

This time, Dunn was to have the upper hand and took the second position in 35:02 with Owain Rowlands of Aberystwyth AC finishing fast to claim the third spot on the podium just ahead of Pugh-Jones. Morgan Roberts-Young was not far behind in fifth place with a time of 35:40.

There was another clear winner in the womens race with Becky Atkinson of Sarn Helen opening a big lead over the rest on the first lap. Atkinson showed no signs of her 50k ultra race over the weekend as she finished in 40:47.  Sarn Helen Runners filled the rest of the podium places as well with Sophie Barker second in 43:13, closely followed by Dee Jolly in 43:20.

All three women won their age categories, Becky in the F45 category, Sophie with the Open Female win and Dee taking the F35 prize. There were also category wins for Gunvor Troelsen (F55) and Chris Thomas (F65) , both of Builth and District.

Male category winners were Owain Rowlands (Open), Dylan Lewis (M35), William Dunn (M45), Glyn Price (M55) and Robert Sharratt (M65).

Earlier in the evening a series of junior races had been held. Isaac Jones (Aberystwyth AC) and Ela Freeman (Sarn Helen) were first boy and girl in the years 3 and 4 race, with Elis Herrick (Sarn Helen) and Moli Tooze (Aberystwyth AC) taking the wins in the year 5 + 6 race.

In the secondary school races there were victories for Gethin Thomas (Carmarthen Harriers) and Ellie Tansley (Sarn Helen) in the year 7-9 race, and also for Ffion Thomas in the years 10-11 race.

The third and final race of the series will be held at Longwood, Lampeter on Wednesday 18 June where the overall series titles will be up for grabs – entries now open.

Full Ras yr Hafod results below.


Dau o redwyr clwb Sarn Helen ddaeth i’r brig yn ras oedolion Ras yr Hafod ar noson hyfryd arall ar Ystad yr Hafod ger Pontrhydygroes.

Dychwelodd pencampwr 2024, Dylan Lewis, yn ffresh o redeg Marathon Manceinion yn ddiweddar, i ddal gafael ar ei deitl yn 2025. Roedd ras eleni ar gwrs amgen ac ychydig yn fyrrach na’r arfer o ganlyniad i ddifrod storm ar lwybrau’r Hafod, ond doedd hynny ddim yn ofid i Lewis wrth iddo reoli’r ras o’r dechrau gan agor bwlch sylweddol erbyn diwedd y lap cyntaf.

Yn y diwedd fe orffennodd y ras mewn amser o 34:16 oedd dros dri chwarter munud yn gynt na’i wrthwynebydd agosaf.

Er hynny roedd yn frwydr llawer agosach am yr ail a thrydydd safle gyda grŵp o bedwar rhedwr yn cwblhau’r lap cyntaf gyda’i gilydd. Yn eu mysg roedd enillydd ras agoriadol Cyfres yr Haf yn Nant yr Arian, Ieuan Pugh-Jones, yn ogystal a’r gŵr oedd yn ail agos bryd hynny,  Will Dunn.

Y tro hwn, Dunn fyddai’n fuddugol yn y frwydr gan orffen yn ail mewn 35:02, wrth i  Owain Rowlands o Aberystwyth AC orffen yn gryf i hawlio’r trydydd safle ar y podiwum eiliadau ar y blaen i Pugh-Jones. Doedd Morgan Roberts-Young ddim yn bell tu ôl iddynt yn y pumed safle mewn 35:40.

Becky Atkinson – enillydd ras y merched / Becky Atkinson – winner of the womens race

Roedd enillydd clir hefyd ymysg y merched wrth i  Becky Atkinson o Sarn Helen agor bwlch mawr rhyngddi hi a’r gweddill erbyn diwedd y lap gyntaf. Doedd dim arwydd o’r ras yltra 50k roedd hi wedi cwblhau dros y penwythnos ar Atkinson wrth iddi orffen mewn 40:47.  Merched Sarn Helen oedd yn llenwi gweddill safleoedd y podiwm hefyd gyda Sophie Barker yn ail mewn 43:13, a Dee Jolly yn drydydd agos mewn 43:20.

Enillodd y dair eu categoriau oedran ar y noson, Becky gyntaf yn y categori 45-54, Sophie yn ennill y categori Merched Agored a Dee yn cipio’r wobr yn y grŵp oedran 35-44. Roedd gwobrau categori hefyd i Gunvor Troelsen (55-64) a Chris Thomas (65+) , y ddwy o Glwb Llanfair ym Muallt.

Enillwyr categorïau’r dynion oedd Owain Rowlands (Agored), Dylan Lewis (35-44), William Dunn (45-54), Glyn Price (55-64) a Robert Sharratt (65+).

Yn gynharach yn y noson cynhaliwyd rasys plant hefyd. . Isaac Jones (Aberystwyth AC) ac Ela Freeman (Sarn Helen) oedd y bachgen a merch cyntaf yn y ras i flynyddoedd 3 a 4, gydag Elis Herrick (Sarn Helen) a Moli Tooze (Aberystwyth AC) yn fuddugol yn y ras i flynyddoedd 5 + 6.

Yn y rasys oedran  uwchradd roedd buddugoliaethau i Gethin Thomas (Harriers Caerfyrddin) ac Ellie Tansley (Sarn Helen) yn y ras blynyddoedd 7-9, a hefyd i Ffion Thomas yn y ras y flynyddoedd 10-11.

Bydd y drydedd ras yn y gyfres, a’r olaf eleni, yn cael ei chynnal yn  Longwood, Llanbedr Pont Steffan ar nos Fercher 18 Mehefin pan fydd enillwyr teitlau’r gyfres yn cael eu datgelu hefyd –  gallwch gofrestru am y ras nawr.

Canlyniadau rasys plant / Junior race results

Canlyniadau ras oedolion / Senior race results